Delwedd // Image:

ANGHARAD PEARCE JONES

 

 

 

There has been much written about the overlooked, forgotten or discovered female artist who has been toiling away in relative obscurity, but Angharad has been consistently producing and showing. She does not court the artworld, but consistent production and a steady exploration of ideas has meant that her work has slowly evolved, shifting to mirror different parts of her life. This isn’t about a female artist working in territories that have historically been linked with male workforces; rather, it is a direct reflection of the life of the artist. She is not an outsider to functional industrial processes, her living is made from them, and the workshop environment is as much an influence as the agricultural place she is in, her home or the aisles of B&Q. This is not a borrowed feminist critique on the male/ female division of labour (though that is still a valid debate), it is the work of an artist who is a white-van-(wo)man, a steel fabricator and a maker and a mother. It is the work of a sculptor"

 

 Anthony Shapland. Artist and Curator, g39. February 2015 

 

 

"Mae erthyglau lu wedi’u hysgrifennu am yr artist benywaidd a ddiystyriwyd, a anghofiwyd neu a ddarganfuwyd, a hithau wedi bod yn llafurio wrth ei gwaith yn gymharol ddi-nod, ond mae Angharad wedi cynhyrchu ac arddangos yn rheolaidd. Dydi hi ddim yn ceisio cymeradwyaeth y byd celf, ond wrth iddi gynhyrchu’n rheolaidd ac archwilio syniadau’n gyson mae ei gwaith wedi esblygu’n araf, gan ddatblygu i fod yn ddrych ar wahanol rannau o’i bywyd. Nid mater yw hyn o artist benywaidd yn gweithio mewn tiriogaethau a fu’n hanesyddol gysylltiedig â gweithluoedd gwrywaidd; yn hytrach, mae’n adlewyrchiad uniongyrchol o fywyd yr artist. Nid dod at brosesau diwydiannol swyddogaethol o’r tu allan a wna; mae hi’n gwneud ei bywoliaeth ohonynt, ac mae amgylchedd y gweithdy’n gymaint o ddylanwad â’r lle amaethyddol y mae hi ynddo, ei chartref neu eiliau B&Q. Nid ymdriniaeth ffeministaidd fenthyg yw hon ar raniad gwaith rhwng gwrywod a benywod (er mor ddilys yw’r ddadl honno o hyd). Yr hyn sydd yma yw gwaith artist sy’n ddyn(es) fan wen, yn weithiwr dur ac yn wneuthurwr ac yn fam. Gwaith cerflunydd ydyw."

 

 Anthony Shapland. Artist a Churadur, g39. Chwefror 2015